Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Pwerau diofyn Gweinidogion CymruLL+C

78Pwerau diofyn Gweinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru os ydynt wedi eu bodloni bod GCC

(a)wedi methu heb esgus rhesymol â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu

(b)wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi datganiad sy’n datgan bod GCC wedi methu, a

(b)cyfarwyddo GCC i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, mewn unrhyw fodd ac o fewn unrhyw gyfnod neu gyfnodau, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Os yw GCC yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyflawni’r swyddogaethau y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy eu hunain, neu

(b)gwneud trefniadau i unrhyw berson arall gyflawni’r swyddogaethau hynny ar eu rhan.

(4)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 78 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)