RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

I1I384“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—

a

os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—

i

wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,

ii

yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru F2 – gweithwyr cymdeithasol ), neu

iii

yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;

F1aa

os yw'r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol—

i

wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy'n dymuno dod yn rheolwyr gofal cymdeithasol,

ii

yn bodloni gofynion adran 85A (cymwysterau a geir tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), neu

iii

yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â rheolwyr gofal cymdeithasol;

b

os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—

i

wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu

ii

sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.

I2I485Cymwysterau a geir y tu allan i Gymru F3– gweithwyr cymdeithasol

1

Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw’r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol, wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i’r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â’r Rhan honno o’r Rheoliadau hynny).

2

Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon—

a

os yw’r ymgeisydd wedi gwneud hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol yn rhywle arall ac eithrio Cymru, a

b

os, naill ai—

i

cydnabyddir yr hyfforddiant hwnnw gan GCC fel hyfforddiant o safon sy’n ddigonol ar gyfer cofrestriad o’r fath, neu

ii

na chydnabyddir yr hyfforddiant yn y fath fodd, ond bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol gan GCC (pa un a yw hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall).

85AF4Cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol

Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn rhan ychwanegol o'r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw'r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i'r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â'r Rhan honno o'r Rheoliadau hynny).