3(1)“Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” yw’r ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni mewn man yng Nghymru—
(a)lle y mae galluedd y rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant yn cael ei fonitro neu ei asesu, a
(b)lle y rhoddir i’r rhieni unrhyw ofal a chymorth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.
(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “rhiant” mewn perthynas â phlentyn yw unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b)