30Yn adran 1 (trosolwg)—
(a)yn is-adran (9)—
(i)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn llunio—
(i)adroddiadau blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a
(ii)adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer darparu gofal a chymorth,
(adrannau 144A a 144B);”
(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(ca)yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 149A a 149B);”
(iii)ym mharagraff (d), yn lle “161).” rhodder “160);
(da)yn caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu arfer pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny, ac i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 161 i 161C).”;
(b)yn is-adran (15)(c), yn lle “sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000)” rhodder “darparwr gwasanaeth (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)”.