RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL AC ATODOL

160Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C

(1)At ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i⁠—

(a)person cofrestredig, neu

(b)unrhyw berson arall (ac eithrio un o Weinidogion y Goron),

y mae GCC yn meddwl ei fod yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ymddangos ei bod yn berthnasol i arfer unrhyw swyddogaeth o’r fath, gyflenwi’r wybodaeth honno neu gyflwyno’r ddogfen honno.

(2)Caiff GCC, yn benodol, ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig yr ymchwilir i’w addasrwydd i ymarfer, ddarparu manylion unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo;

(b)sydd â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n caniatáu, unrhyw ddatgeliad o wybodaeth a waherddir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Ond pan fo gwybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf y mae’r gwaharddiad yn gweithredu ynddi oherwydd bod yr wybodaeth yn gallu golygu bod modd adnabod unigolyn, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi ar ffurf nad yw’n gallu golygu bod modd adnabod yr unigolyn hwnnw.

(5)Os yw person yn methu â chyflenwi unrhyw wybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen o fewn 14 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y mae GCC yn ei bennu, i’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person wneud hynny o dan yr adran hon, caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei chyflenwi neu i’r ddogfen gael ei chyflwyno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 160(1) modified (25.3.2020) by Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 5 para. 2(5) (ynghyd ag aau. 89, 90) (subject to expiry in accordance ynghyd ag a. 89(1)(2)(d) of the modifying Deddf)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 160(1)-(4) mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)