RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

187Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

b

yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.

2

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

a

adran 2(1)(i) (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau gofal a chymorth eraill fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

b

adran 2(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

c

adran 3(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gofal a chymorth);

d

adran 9(9) (rheoliadau sy’n amrywio’r dystiolaeth sydd i’w hystyried wrth ddyfarnu a yw person yn berson addas a phriodol);

e

adran 11(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi terfyn amser y mae rhaid gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol amnewidiol ynddo);

f

adran 27(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau);

g

adran 28(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar unigolion cyfrifol);

h

adran 37(1) (rheoliadau ynghylch graddau arolygu);

i

adran 40(1) (rheoliadau ynghylch codi ffioedd);

j

adran 45 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau);

k

adran 46 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol);

l

adrannau 59(1) a (4) a 61(6) a (9) (rheoliadau ynghylch y gyfundrefn trosolwg o’r farchnad);

m

adran 79(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol);

n

adran 80(1)(b) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae rhaid i GCC gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy);

o

adran 111(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi teitlau a ddiogelir ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eithrio gweithwyr cymdeithasol);

p

adran 117 (diwygio ar ba seiliau y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer);

q

adran 130 (trefniadau ar gyfer cyfryngu);

r

adran 136(2)(d) (personau y caniateir i ymgymeriadau gael eu datgelu iddynt gan GCC);

s

adran 142 (diwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu materion);

t

adran 165 (dynodi gweithgareddau rheoleiddiedig etc. at ddibenion gorchmynion gwahardd o dan Ran 7);

u

adran 171(3) (creu troseddau mewn perthynas â chyflogi neu benodi personau sy’n ddarostyngedig i orchmynion gwahardd etc.);

v

adran 177(1)(h) (rheoliadau sy’n rhagnodi personau eraill yn awdurdodau perthnasol at ddibenion Rhan 9);

w

paragraff 7 o Atodlen 1 (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau penodol fel gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig).

3

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 186.