C4C3C2C1RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

Annotations:

PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU

I1I233Arolygiadau ac arolygwyr

1

Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “arolygiad” yn gyfeiriad at arolygiad—

a

o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu;

b

o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.

2

Dim ond unigolyn sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “arolygydd”) a gaiff gynnal arolygiad.

3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau).

5

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.

6

Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod wrth gynnal arolygiad.