xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3LL+CGWYBODAETH AC AROLYGIADAU

33Arolygiadau ac arolygwyrLL+C

(1)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “arolygiad” yn gyfeiriad at arolygiad—

(a)o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu;

(b)o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.

(2)Dim ond unigolyn sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “arolygydd”) a gaiff gynnal arolygiad.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch y modd y mae arolygiadau i’w cynnal (gan gynnwys amlder arolygiadau).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi cod diwygiedig.

(6)Rhaid i arolygydd roi sylw i’r cod wrth gynnal arolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 33 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)