C4C3C2C1RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

Annotations:

C4C3C2C1PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

I1I247Datganiadau anwir

Mae’n drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn—

a

cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth,

b

cais i amrywio neu i ganslo cofrestriad,

c

datganiad blynyddol a gyflwynir o dan adran 10, neu

d

ymateb i ofyniad a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth).