47Datganiadau anwirLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
Mae’n drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn—
(a)cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth,
(b)cais i amrywio neu i ganslo cofrestriad,
(c)datganiad blynyddol a gyflwynir o dan adran 10, neu
(d)ymateb i ofyniad a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 47 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)