RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD
Rheoliadau: gweithdrefn a chyngor
48Rheoliadau: gweithdrefn
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru os yw’n cynnwys y canlynol yn unig—
a
rheoliadau o dan adran 44(1)(b) nad ydynt yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
b
rheoliadau o dan adran 52.
3
Ni chaniateir i unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
49Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadau
1
Cyn gosod rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 48(3), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
gofyn am gyngor gan y corff cynghori ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, a
b
ystyried cyngor y corff cynghori.
2
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori o dan yr adran hon, rhaid iddynt bennu cyfnod rhesymol y mae’n rhaid darparu’r cyngor oddi fewn iddo.
3
Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw.
4
Rhaid i gyngor y corff cynghori nodi’r rhesymau dros y cyngor.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyngor y corff cynghori cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.
6
Os yw’r rheoliadau drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud darpariaeth wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy’n nodi’r rhesymau paham y gwnaed hynny.
7
Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau o dan adran 44.
50Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebau
1
Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 29 sy’n newid targed allyriadau 2050 neu reoliadau o dan adran 30 sy’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—
a
a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, a
b
os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
2
Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 31 sy’n gosod neu’n newid cyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—
a
lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod;
b
i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—
i
drwy ostwng swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, neu
ii
drwy ddefnyddio unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod yn unol â rheoliadau o dan adrannau 33 a 36;
c
y cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod y dylai’r naill a’r llall o’r canlynol eu gwneud—
i
y sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);
ii
y sectorau o economi Cymru nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);
d
y sectorau o economi Cymru lle ceir cyfleoedd penodol i wneud cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
3
Pan fo’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i’r materion a grybwyllir yn adran 32(3).
4
Yn is-adran (2), mae i “cynllun masnachu” yr ystyr a roddir i “trading scheme” gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).