RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD

Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: y prif ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru

29Targed allyriadau 2050

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na’r waelodlin.

(2)Gweler adran 33 am ystyr “cyfrif allyriadau net Cymru”, a gweler adran 38 am ystyr y “waelodlin”.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) fel ei bod yn pennu canran sy’n fwy nag 80%.

(4)Yn y Rhan hon, cyfeirir at y targed yn is-adran (1) fel “targed allyriadau 2050”.

30Targedau allyriadau interim

(1)Ar gyfer pob blwyddyn darged interim rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a fynegir fel canran islaw’r waelodlin (“targed allyriadau interim”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob blwyddyn darged interim yn uwch na’r targed allyriadau interim ar gyfer y flwyddyn honno.

(3)Y blynyddoedd targed interim yw 2020, 2030 a 2040.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y targedau allyriadau interim cyn diwedd 2018.

31Cyllidebau carbon

(1)Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol, rhaid i Weinidogion Cymru osod drwy reoliadau gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (“cyllideb garbon”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnodau cyllidebol yw—

(a)2016 i 2020, a

(b)pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, sy’n dod i ben â 2046 i 2050.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod y cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf cyn diwedd 2018, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer y trydydd cyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach o leiaf bum mlynedd cyn dechrau’r cyfnod o dan sylw.

32Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—

(i)targed allyriadau 2050, a

(ii)y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

(a)eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—

(i)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu

(ii)cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;

(b)bod y corff cynghori wedi argymell y newid;

(c)bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).

(3)Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,

(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),

(c)yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),

(d)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,

(e)technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac

(f)cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).

(4)Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.