xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa

54Ystyr “bag siopa”

Yn y Rhan hon, ystyr “bag siopa” yw bag a ddarperir at y diben o—

(a)galluogi nwyddau i gael eu cymryd ymaith o’r man lle cânt eu gwerthu, neu

(b)galluogi nwyddau i gael eu danfon.

55Gofyniad i godi tâl

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon (“rheoliadau bagiau siopa”).

(2)Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau godi tâl am gyflenwi bagiau siopa o’r disgrifiadau a bennir yn y rheoliadau o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3).

(3)Yr amgylchiadau yw bod y nwyddau—

(a)yn cael eu gwerthu mewn man neu o fan yng Nghymru, neu

(b)wedi eu bwriadu ar gyfer eu danfon i berson yng Nghymru.

(4)Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o fag siopa drwy gyfeirio at y canlynol (er enghraifft)⁠—

(a)maint, trwch, gwneuthuriad, cyfansoddiad neu nodweddion eraill y bag,

(b)y defnydd y bwriedir ei wneud o’r bag,

(c)y pris a godir gan y gwerthwr nwyddau am gyflenwi’r bag (ac eithrio unrhyw dâl sy’n ofynnol gan y rheoliadau),

neu unrhyw gyfuniad o’r ffactorau hynny.

(5)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu isafswm y tâl y mae’n rhaid ei godi am fag siopa, neu

(b)darparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

(6)Yn y Rhan hon, ystyr “y tâl” yw unrhyw dâl am gyflenwi bagiau siopa a wneir yn unol â rheoliadau bagiau siopa.

56Gwerthwyr nwyddau

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “gwerthwr nwyddau” yw person sy’n gwerthu nwyddau yng nghwrs busnes.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae person yn gweithredu yng nghwrs busnes os yw’r person⁠—

(a)yn gweithredu unrhyw fusnes neu ymgymeriad, pa un a yw hynny ar gyfer elw ai peidio, neu

(b)yn arfer unrhyw swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau bagiau siopa ynghylch personau sydd i’w hystyried, neu nad ydynt i’w hystyried, yn werthwyr mewn perthynas â nwyddau.

(4)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i’r canlynol—

(a)pob gwerthwr nwyddau,

(b)gwerthwyr nwyddau penodedig,

(c)gwerthwyr nwyddau o ddisgrifiad penodedig, neu

(d)gwerthwyr o fewn paragraff (b) a gwerthwyr o fewn paragraff (c).

(5)Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o werthwr drwy gyfeirio at—

(a)y man y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddo neu ohono neu’r mannau y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddynt neu ohonynt;

(b)y math o nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

(c)gwerth y nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

(d)trosiant gwerthwr neu unrhyw ran o’r trosiant;

(e)trefniadau gwerthwr ar gyfer cymhwyso’r enillion net o’r tâl (gweler adran 57);

(f)unrhyw ffactor arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, pa un a yw’r ffactor hwnnw o’r un math â’r rhai a restrir ym mharagraffau (a) i (e) ai peidio.

57Cymhwyso’r enillion

(1)Rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i’r enillion net o’r tâl gael eu cymhwyso at ddibenion elusennol sydd—

(a)yn ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd, a

(b)o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni (pa un a ydynt o fudd hefyd i unrhyw ardal arall ai peidio).

(2)Ond rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer eithriad sy’n galluogi gwerthwr nwyddau i gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol eraill pan fo’r gwerthwr—

(a)o fewn cyfnod penodedig cyn i’r ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ddod i rym am y tro cyntaf, wedi cymhwyso symiau a dderbyniwyd ar ffurf taliadau am fagiau siopa at y dibenion hynny, a

(b)wedi rhoi hysbysiad ei fod wedi cymhwyso symiau at y dibenion hynny fel y crybwyllir ym mharagraff (a) ac am ddymuniad y gwerthwr i allu cymhwyso’r holl enillion net o’r tâl, neu ran ohonynt, at y dibenion hynny.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch sut, pa bryd ac i bwy y mae’n rhaid rhoi hysbysiad;

(b)ynghylch gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu wrth roi hysbysiad;

(c)i’r eithriad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau.

(4)Caiff y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i werthwr nwyddau gymhwyso’r enillion net o’r tâl—

(a)at y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt, neu

(b)pan fo’r rheoliadau’n pennu un diben elusennol neu ragor, at y dibenion penodedig hynny neu at y rhai hynny o’u plith y bydd y gwerthwr yn penderfynu arnynt.

(5)Caiff rheoliadau bagiau siopa (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu bod yr enillion net o’r tâl i’w trin fel petaent wedi eu cymhwyso yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon os cânt eu derbyn gan bersonau penodedig neu bersonau o ddisgrifiad penodedig (neu’r ddau);

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer y trefniadau i’r enillion net o’r tâl gael eu rhoi gan werthwyr i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu i unrhyw berson arall;

(c)ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n derbyn unrhyw enillion net o’r tâl gymhwyso’r enillion at ddibenion elusennol yn unol â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) neu (2).

(6)Caiff y rheoliadau—

(a)darparu i Weinidogion Cymru adennill symiau sy’n gyfwerth â’r enillion o’r tâl a dderbyniwyd neu a gymhwyswyd heb fod yn unol â darpariaeth a wneir o dan yr adran hon;

(b)darparu ar gyfer cymhwyso symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru at ddibenion elusennol o fewn is-adran (1) (gan gynnwys y dibenion elusennol hynny o fewn yr is-adran honno y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arnynt);

(c)darparu nad yw symiau a adenillir gan Weinidogion Cymru i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru.

(7)Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i bersonau ar wahân i werthwyr nwyddau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod darpariaeth o’r fath yn briodol er mwyn gorfodi darpariaeth a wneir o dan yr adran hon neu ar gyfer gwneud darpariaeth o’r fath yn effeithiol fel arall.

(8)Yn y Rhan hon, mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno); ond caiff rheoliadau bagiau siopa ddarparu i’r diffiniad fod y gymwys at ddibenion y Rhan hon gyda’r addasiadau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu cymhwyso’n briodol.

Gweinyddu a gorfodi

58Gweinyddu

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person i fod yn weinyddwr.

(3)Caiff y rheoliadau roi pwerau i weinyddwr, neu osod dyletswyddau arno.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r gweinyddwr, neu

(b)i unrhyw ddeddfiad o’r fath fod yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, at ddibenion y rheoliadau.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at weinyddwr yn cynnwys person a benodir gan weinyddwr.

59Cadw a chyhoeddi cofnodion

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw mewn perthynas â thaliadau a godir gan werthwyr nwyddau am fagiau siopa (pa un a yw’r taliadau’n ofynnol o dan y rheoliadau ai peidio).

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol—

(a)i’r cofnodion gael eu cyhoeddi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyhoeddi, ar yr adegau hynny y gellir eu pennu ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu;

(b)i’r cofnodion gael eu cyflenwi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyflenwi, ar gais ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu—

(i)i Weinidogion Cymru,

(ii)i weinyddwr, neu

(iii)i aelodau o’r cyhoedd.

(3)Caiff y rheoliadau (er enghraifft) ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)y swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf taliadau am fagiau siopa (pa un a yw hynny’n unol â’r rheoliadau neu fel arall);

(b)enillion gros neu net y gwerthwr o’r tâl;

(c)at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net o’r tâl.

(4)Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol hefyd gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r swm y mae person wedi ei dderbyn gan werthwr ar ffurf enillion net o’r tâl sydd i’w gymhwyso at ddibenion elusennol.

60Gorfodi

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi pwerau neu ddyletswyddau i weinyddwr neu osod pwerau neu ddyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau (er enghraifft) roi pwerau i weinyddwr—

(a)i’w gwneud yn ofynnol dangos dogfennau neu ddarparu gwybodaeth, neu

(b)i holi gwerthwr nwyddau neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr.

(3)Caiff y rheoliadau hefyd roi pwerau i weinyddwr holi person y mae’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol ei fod wedi derbyn unrhyw enillion net o’r tâl neu swyddogion neu gyflogeion person o’r fath.

(4)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n rhoi pŵer o fewn is-adran (2) gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau nad yw’r pŵer yn cael ei arfer gan weinyddwr ond pan fo’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau.

61Sancsiynau sifil

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil.

Cyffredinol

62Rheoliadau o dan y Rhan hon

(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau bagiau siopa yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer dibenion neu achosion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Caiff darpariaeth o dan is-adran (2)(b) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad.

(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau bagiau siopa gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

63Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

64Mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau sy’n ymwneud â’r Rhan hon.