Rhagolygol
Cosbau ariannol penodedigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
2(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri’r rheoliadau.
(2)Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y toriad wedi digwydd.
(3)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “cosb ariannol benodedig” yw gofyniad i dalu cosb i weinyddwr o swm a bennir yn y rheoliadau neu a benderfynir yn unol â hwy.
(4)Ni chaiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig o fwy na £5,000.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 88(3)(a)