RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Polisi adnoddau naturiol cenedlaethol

9Dyletswydd i baratoi, cyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol cenedlaethol

1

Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi dogfen sy’n nodi eu polisïau cyffredinol a phenodol ar gyfer cyfrannu at gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru (y “polisi adnoddau naturiol cenedlaethol”).

2

Rhaid i’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol nodi’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, gan gynnwys yr hyn y maent yn ystyried y dylid ei wneud mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys unrhyw beth yn y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol y maent yn ystyried ei fod yn berthnasol i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol, a

b

annog eraill i gymryd camau o’r fath.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol cyntaf cyn diwedd y 10 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym.

6

Mewn perthynas â’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol—

a

rhaid i Weinidogion Cymru ei adolygu ar ôl pob etholiad cyffredinol, a

b

caiff Gweinidogion Cymru ei adolygu ar unrhyw adeg arall.

7

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol ar unrhyw adeg a rhaid iddynt gyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol fel y’i diwygiwyd.

8

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

9

Wrth baratoi neu ddiwygio’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ynghylch cyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.

10

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol (neu bolisi diwygiedig), rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi—

a

unrhyw ymgynghori a gynhaliwyd wrth baratoi’r polisi, a

b

unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.

11

Yn is-adran (6), ystyr “etholiad cyffredinol” yw pleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) neu etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.