RHAN 3ADEILADAU RHESTREDIG

Rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig

I1I226Diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau: darpariaeth ganlyniadol

1

Yn adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig)—

a

yn is-adran (4)—

i

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “any list under this section” mewnosoder “in relation to buildings which are situated in England”, a

ii

ym mharagraff (a), hepgorer “in relation to buildings which are situated in England,”, a

b

ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

4A

Section 2A makes provision about consultation on amendments of any list under this section to include or exclude a building which is situated in Wales.

2

Yn adran 2 o’r Ddeddf honno (cyhoeddi rhestrau), yn is-adran (3)—

a

yn y geiriau agoriadol—

i

ar ôl “any building”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “situated in England”, a

ii

yn lle “any building”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “any such building”, a

b

ym mharagraff (a), hepgorer “, Welsh county, county borough,”.

3

Yn yr adran honno, ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

3A

As soon as possible after amending a list under section 1 to include or exclude a building which is situated in Wales, the Welsh Ministers—

a

must inform the local planning authority in whose area the building is situated of its inclusion or exclusion; and

b

in the case of an amendment to exclude a building, must serve a notice on every owner and occupier of the building, stating that the building has been excluded from the list.

3B

Section 2D makes provision about the further steps that the Welsh Ministers must take after amending a list under section 1 to include a building which is situated in Wales.

4

Yn adran 3 o’r Ddeddf honno (rhestru dros dro: hysbysiadau diogelu adeiladau)—

a

yng ngeiriau agoriadol is-adran (2), ar ôl “a local planning authority” mewnosoder “under this section”,

b

yng ngeiriau agoriadol is-adran (3), ar ôl “building preservation notice” mewnosoder “under this section”,

c

yng ngeiriau agoriadol is-adran (4), ar ôl “building preservation notice” mewnosoder “under this section”,

d

yn is-adran (5), ar ôl “building preservation notice” mewnosoder “under this section”, ac

e

yn is-adran (6), ar ôl “building preservation notice” mewnosoder “under this section”.

5

Yn adran 4 o’r Ddeddf honno (rhestru dros dro mewn achosion brys), yn is-adran (2), yn lle “section 3,” rhodder “sections 3 and 3A,”.

6

Yn adran 5 o’r Ddeddf honno (darpariaethau sy’n gymwys ar ddarfodiad hysbysiad diogelu adeilad)—

a

daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1), a

b

ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

2

See section 3A(6) for provision as respects the lapse of building preservation notices in consequence of interim protection taking effect.

7

Yn adran 21 o’r Ddeddf honno (apelau: darpariaethau atodol), yn is-adran (4), ar ôl “a building with respect to which” mewnosoder “interim protection has effect or”.

8

Yn adran 31 o’r Ddeddf honno (darpariaethau cyffredinol o ran digollediad am ddibrisiant o dan Ran 1 o’r Ddeddf), yn is-adran (2), ar ôl “payable under sections 28” mewnosoder “, 28B”.

9

Yn adran 60 o’r Ddeddf honno (eithriadau ar gyfer adeiladau eglwysig ac eglwysi wedi eu cau), yn is-adran (2), ar ôl “sections 3,” mewnosoder “3A,”.

10

Yn adran 61 o’r Ddeddf honno (eithriadau ar gyfer henebion hynafol etc), yn is-adran (2), yn lle “sections 3,” rhodder “sections 2B, 3, 3A,”.

11

Yn adran 62 o’r Ddeddf honno (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol), yn is-adran (2), cyn paragraff (a) mewnosoder—

za

any decision on a review under section 2D;

12

Yn adran 82 o’r Ddeddf honno (cymhwyso’r Ddeddf i dir a gwaith awdurdodau cynllunio lleol)—

a

yn is-adran (1), ar ôl “sections 2” mewnosoder “to 2D,”, a

b

yn is-adran (3)—

i

ar ôl “sections 1(3), (5) and (6),” mewnosoder “2B, 2C,”,

ii

ar ôl “28,” mewnosoder “28B,”, a

iii

ar ôl “Schedules 1” mewnosoder “, 1A”.

13

Yn adran 88 o’r Ddeddf honno (hawliau mynediad), yn is-adran (4), ar ôl “section 28” mewnosoder “, 28B”.

14

Yn adran 91 o’r Ddeddf honno (dehongli), yn is-adran (1)—

a

yn y diffiniad o “building preservation notice”, yn lle “section 3(1)” rhodder “sections 3(1) and 3A(1)”, a

b

mewnosoder yn y lle priodol—

  • “interim protection” has the meaning given in section 2B(3);

15

Yn Atodlen 4 i’r Ddeddf honno (darpariaethau pellach o ran arfer swyddogaethau gan awdurdodau gwahanol), ym mharagraff 7, yn is-baragraff (1), ar ôl “sections 3,” mewnosoder “3A,”.

16

Yn Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol: cynllunio), ym mharagraff 25, yn is-baragraff (1), hepgorer paragraff (b).