RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 4YMHOLIADAU ACC

Atgyfeirio yn ystod ymholiad

46Atgyfeirio cwestiynau at dribiwnlys yn ystod ymholiad

1

Ar unrhyw adeg pan fo ymholiad yn mynd rhagddo caniateir i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth ac ACC, ar y cyd, atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â chynnwys y ffurflen dreth at y tribiwnlys.

2

Rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn a atgyfeirir iddo.

3

Caniateir gwneud mwy nag un atgyfeiriad o dan yr adran hon mewn perthynas ag ymholiad.

47Tynnu atgyfeiriad yn ôl

Caiff ACC neu’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dynnu atgyfeiriad a wnaed o dan adran 46 yn ôl.

48Effaith atgyfeirio ar ymholiad

1

Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—

a

ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a

b

ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).

2

Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—

a

pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a

b

pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.

49Effaith dyfarniad

1

Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.

2

Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—

a

wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a

b

wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.

3

Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.