Search Legislation

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: PENNOD 8

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, PENNOD 8. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 8LL+CGWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

68Gwneud hawliadauLL+C

(1)Rhaid gwneud hawliad o dan adran 62 [F1, 63 neu 63A] ar unrhyw ffurf a bennir gan ACC.

(2)Rhaid i’r ffurflen hawlio ddarparu ar gyfer datganiad i’r perwyl bod yr holl fanylion a roddwyd ar y ffurflen wedi eu datgan yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred yr hawlydd.

(3)Caiff y ffurflen hawlio wneud y canlynol yn ofynnol—

(a)datganiad o’r swm o dreth ddatganoledig y bydd yn ofynnol ei [F2ollwng] neu ei ad-dalu er mwyn rhoi effaith i’r hawliad;

(b)unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddiben penderfynu a yw’r hawliad yn gywir, ac os felly, i ba raddau y mae’n gywir;

(c)darparu gyda’r hawliad unrhyw ddatganiadau a dogfennau, sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr hawliad, sy’n rhesymol ofynnol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (b).

(4)Ni chaniateir hawlio ad-daliad o dreth ddatganoledig oni bai bod gan yr hawlydd dystiolaeth ddogfennol bod y dreth ddatganoledig wedi ei thalu.

(5)Ni chaniateir gwneud hawliad o dan adran 63 drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 68 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

69Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 62 [F3, 63 neu 63A]

(a)bod wedi cadw unrhyw gofnodion y mae eu hangen er mwyn galluogi’r person i wneud hawliad cywir a chyflawn, a

(b)storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd yr olaf o’r canlynol—

(a)(ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr hawliad;

(b)pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad;

(c)pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;

(b)rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).

(5)Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 69(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I5A. 69(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

70Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

Caiff y ddyletswydd o dan adran 69 i storio cofnodion yn ddiogel ei bodloni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7A. 70 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C

(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F4, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—

(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 71 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

72ACC yn cywiro hawliadLL+C

(1)Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).

(2)Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—

(a)dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I11A. 72 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

73Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadauLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro⁠—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a

(b)pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy [F5ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd].

(2)Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—

(a)nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond

(b)caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I13A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

74Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad i hawliad person neu i’w ddiwygiad o hawliad os yw’n dyroddi hysbysiad i’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad neu’r diwygiad.

(2)Ni chaiff hawliad neu ddiwygiad a fu’n destun un hysbysiad ymholiad fod yn destun un arall.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I15A. 74 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

75Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r hawlydd yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad oes angen diwygio’r hawliad ym marn ACC, neu

(b)os yw’r hawliad yn annigonol neu’n ormodol ym marn ACC, diwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd.

(3)Yn achos ymholiad i ddiwygiad o hawliad, nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i’r diwygiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I17A. 75 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

76Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff yr hawlydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 76 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

77Rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75LL+C

(1)Rhaid i ACC, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad o dan adran 75(2)(b) roi effaith i’r diwygiad drwy wneud unrhyw addasiad a all fod yn angenrheidiol, boed—

(a)ar ffurf asesiad o’r hawlydd, neu

(b)drwy ad-dalu treth ddatganoledig neu [F6ei gollwng].

(2)Nid yw asesiad a wneir o dan is-adran (1) oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr is-adran honno.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 77 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadauLL+C

Rhaid i hawliad o dan adran 62 neu 63 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r taliad ar ffurf treth ddatganoledig, neu’r asesiad neu’r dyfarniad, yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 78 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

79Yr hawlydd: partneriaethauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—

(a)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu

(b)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.

(2)Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.

(3)Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 79 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

80Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan wneir hawliad o dan adran 63,

(b)pan fo’r seiliau ar gyfer rhoi effaith i’r hawliad hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig, ac

(c)pe gellid gwneud asesiad o’r fath oni bai am gyfyngiad perthnasol.

(2)Mewn achos sy’n dod o fewn adran 79(1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad at yr hawlydd yn is-adran (1)(b) o’r adran hon yn cynnwys unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3)).

(3)Mae’r canlynol yn gyfyngiadau perthnasol—

(a)adran 58;

(b)terfyn amser ar gyfer gwneud asesiad ACC yn dod i ben.

(4)Pan fo’r adran hon yn gymwys—

(a)mae’r cyfyngiadau perthnasol i’w diystyru, a

(b)nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.

(5)Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol—

(a)hyd na ellir amrywio’r hawliad mwyach, neu

(b)hyd na ellir amrywio’r swm y mae’n berthnasol iddo mwyach,

(boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I27A. 80 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

81Setliadau contractLL+C

(1)Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth ddatganoledig y credwyd ei bod yn daladwy.

[F7(1A)Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.]

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth ddatganoledig yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).

(3)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—

(a)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a

(b)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.

(4)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 [F8neu 63A] mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.

(5)Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig⁠—

(a)caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a

(b)mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources