RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH
Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol
124Cydarwaith cosbau
1
Pan fo person yn agored i fwy nag un gosb o dan adrannau 118 i 120 a bennir drwy gyfeirio at rwymedigaeth i dreth ddatganoledig, ni chaiff y symiau hynny, gyda’i gilydd, fod yn fwy na 100% o’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig.
2
Pan fo person yn agored i—
a
cosb o dan y Bennod hon a bennir drwy gyfeirio at rwymedigaeth i dreth ddatganoledig, a
b
unrhyw gosb arall (ac eithrio cosb o dan y Bennod hon) a bennir drwy gyfeirio at yr un rhwymedigaeth i dreth ddatganoledig,
mae swm y gosb o dan y Bennod hon i’w ostwng gan swm y gosb arall honno.
125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2
1
Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
2
Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
a
y gallu i dalu, na
b
y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
3
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
a
dileu cosb yn llwyr,
b
gohirio cosb, ac
c
cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
4
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.
126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth
1
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.
2
Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn perthynas â’r methiant.
3
At ddibenion is-adrannau (1) a (2)—
a
nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
b
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
c
os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
127Asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb,
b
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac
c
datgan yn yr hysbysiad y cyfnod neu’r trafodiad yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.
3
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.
4
Os yw—
a
asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a
b
ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,
caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
5
Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.
6
Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.
7
O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) neu (6)—
a
nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a
b
caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.
128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2
1
Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw swm ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.
2
Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, neu
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi.
3
Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
a
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;
b
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—
i
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu
ii
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.
4
Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 122(2).
5
Yn is-adran (3)(a) a (b), ystyr “cyfnod apelio” yw’r diweddaraf o’r cyfnodau a ganlyn—
a
os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
b
os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.