RHAN 5COSBAU
PENNOD 5COSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU
Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir
I2I1152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywir
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a
b
os bodlonir amod 1, 2 neu 3.
2
Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—
a
yn fwriadol, neu
b
yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.
3
Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.
4
Amod 3 yw bod y person—
a
yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a
b
yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.
5
Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.
6
Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.