Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Cosbau o dan Bennod 5: cyffredinolLL+C

153Asesu cosbau o dan Bennod 5LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

(3)Ond mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb,

(b)os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, ac

(c)os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(4)Rhaid gwneud asesiad o gosbau o dan adran 150—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod cymwys cyntaf, a

(b)ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 7 niwrnod sy’n cynnwys diwrnod cymwys.

(5)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y penderfynodd yr Uwch Dribiwnlys ei bod yn briodol gosod y gosb.

(6)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152—

(a)o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth yr anghywirdeb i sylw ACC yn gyntaf, a

(b)o fewn y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 153 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)