RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 6TROSEDDAU YN YMWNEUD Â HYSBYSIADAU GWYBODAETH
I1I2115Trosedd o gelu etc. ddogfennau yn dilyn hysbysiad
1
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared (neu’n trefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â dogfen ar ôl i ACC ddweud wrth y person—
a
y bydd dogfen, neu ei bod yn debygol o fod, yn destun hysbysiad gwybodaeth wedi ei gyfeirio at y person hwnnw (gweler adran 88(3)(b)), a
b
bod ACC yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y tribiwnlys i ddyroddi’r hysbysiad gwybodaeth (gweler adran 87(2)(b)) neu ei bod yn ofynnol iddo geisio cymeradwyaeth o’r fath (gweler adrannau 86, 89(1)(d) a 92(1)).
2
Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared â’r ddogfen—
a
ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dywedodd ACC wrth y person (neu y dywedodd wrth y person ddiwethaf), neu
b
wedi i hysbysiad gwybodaeth gael ei ddyroddi sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen.
3
Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod gan y person esgus rhesymol am gelu, am ddifa neu fel arall am gael gwared (neu am drefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen.
4
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—
a
ar gollfarn ddiannod, i ddirwy;
b
ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).