Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)y gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

[F1(2A)Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.]

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 125 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3