xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 3LL+CCOSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Refeniw posibl a gollirLL+C

135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferolLL+C

(1)Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—

(a)anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu

(b)methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,

yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig [F1neu gredyd treth] o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F2...

(b)swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, [F3ac

(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 135 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3