RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Swyddogaethau

I2I114Dirprwyo swyddogaethau

1

Caiff ACC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw berson a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

2

Caiff ACC roi cyfarwyddydau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ynghylch sut y mae’r swyddogaethau dirprwyedig i’w harfer a rhaid i’r person y dirprwywyd y swyddogaethau iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

3

Caniateir amrywio neu ddirymu dirprwyaethau neu gyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

4

Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth ynghylch—

a

dirprwyaethau o dan yr adran hon, a

b

cyfarwyddydau o dan yr adran hon.

5

Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae ACC o’r farn y byddai cyhoeddi gwybodaeth yn niweidio ei allu i arfer ei swyddogaethau yn effeithiol.

6

Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

a

gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

b

cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

7

Caiff ACC wneud taliadau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau dirprwyedig gan y person.