xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.
(2)Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—
(a)wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a
(b)wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.
(3)Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3