RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 8GWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.
I1I271Hawlydd yn diwygio hawliad
1
Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 F1, 63 neu 63A ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.
2
Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—
a
dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu
b
os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—
i
sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a
ii
sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.