xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 8LL+CGWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C

(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F1, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—

(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 71 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3