xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Prif weithredwyr

54Prif weithredwyr

(1)Rhaid i brif gyngor benodi prif weithredwr.

(2)Rhaid i brif weithredwr prif gyngor—

(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir yn is-adran (3), a

(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyngor yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.

(3)Y materion yw—

(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyngor yn arfer ei wahanol swyddogaethau;

(b)trefniadau’r cyngor mewn perthynas ag—

(i)cynllunio ariannol,

(ii)rheoli asedau, a

(iii)rheoli risg;

(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyngor er mwyn arfer ei swyddogaethau;

(d)trefniadaeth staff y cyngor;

(e)penodi staff y cyngor;

(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyngor (gan gynnwys trefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion is-adran (2)(b), rhaid i brif weithredwr prif gyngor drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at holl aelodau’r cyngor.

(5)Rhaid i brif gyngor ystyried adroddiad a wnaed o dan is-adran (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at aelodau’r cyngor am y tro cyntaf; ac nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan yr is-adran hon.

(6)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan yr adran hon.

(7)Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

55Disodli cyfeiriadau at “cyflog” yn adran 143A o Fesur 2011

(1)Mae adran 143A o Fesur 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adrannau (1), (3), (3A), (3B), (5A) a (5B), yn lle “cyflog”, “chyflog” neu “gyflog”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “cydnabyddiaeth ariannol”, “chydnabyddiaeth ariannol” neu “gydnabyddiaeth ariannol”, yn ôl y digwydd.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “gyflogau” rhodder “gydnabyddiaeth ariannol”.

(4)Yn is-adran (3A), yn lle “daladwy” rhodder “cael ei darparu”.

(5)Yn is-adran (5B), yn lle “talu” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “darparu”;

(6)Yn is-adran (7)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyflog”, a

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

(7)Yn y pennawd, yn lle “chyflogau” rhodder “chydnabyddiaeth ariannol”.

(8)Yn Neddf 1972, yn adran 112(2A) (penodi staff) yn lle “salaries” rhodder “remuneration”.

56Ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

Yn adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—

(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac

(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.