xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 18)

ATODLEN 6LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf 2016LL+C

1Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

2LL+CYn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol), yn is-adran (3)—

(a)hepgorer paragraffau (k) i (o), a’r “a” sy’n dilyn paragraff (o);

(b)ar ôl paragraff (p) mewnosoder , a

(q)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

3LL+CYn adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol), hepgorer is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

4LL+CYn adran 34 (methu â darparu datganiad ysgrifenedig) ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

5LL+CYn adran 37 (datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llys), yn is-adran (2), ym mharagraff (b) yn lle “, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4)” rhodder “neu 124(2) i (4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

6LL+CYn adran 39 (y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)Mae paragraff 3 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan yr adran hon.

(5)Mae is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

7LL+CYn adran 46 (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach), yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “Mae adrannau 177 a 198 yn gwneud” hyd at “rhoi hysbysiad” rhodder “Mae paragraff 4 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

8LL+CYn adran 65 (gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad), yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle’r geiriau o “copi” hyd at “adran honno” rhodder “hysbysiad yn unol ag adran 64(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

9LL+CYn adran 122 (amrywio), yn is-adran (1), ym mharagraff (a) yn lle “126” rhodder “125”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

10LL+CYn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (b), hepgorer “ac adran 177 (torri’r rheolau blaendal)”;

(b)hepgorer paragraff (i), a’r “a” sy’n ei ddilyn;

(c)ar ôl paragraff (j) mewnosoder , a

(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad y landlord o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

11LL+CYn adran 128 (datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad), yn is-adran (1) yn lle “, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4)” rhodder “neu 124(2) i (4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

12LL+CYn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer paragraffau (i) a (j) (ond nid yr “a” sy’n dilyn paragraff (j));

(ii)yn lle paragraff (k) rhodder—

(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol).;

(b)yn is-adran (6), hepgorer y geiriau o “, ond nid yw is-adran (2)(k)” hyd at “deiliad y contract”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

13LL+CYn adran 147 (trosolwg o Ran 9), yn nhabl 1, yng ngholofn dde y cofnod ar gyfer Pennod 1, yn lle “adran 161” rhodder “adran 160”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

14LL+CYn adran 150 (hysbysiadau adennill meddiant), yn is-adran (1)—

(a)ar ôl “ddeiliad contract” mewnosoder “o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder

(a)adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);

(b)adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);

(c)adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);

(d)adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

15LL+CYn adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), yn is-adran (4) hepgorer y geiriau o “ac mae adran 20 yn darparu” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

16LL+CYn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), yn y testun Seasneg, yn is-adran (1), yn lle “in serious rent arrears” rhodder “seriously in arrears with his or her rent”.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

17LL+CYn adran 183 (perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol i gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd y cyfnod penodol)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder neu

(c)hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,;

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Mae adrannau 179 a 180—

(a)yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a

(b)yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

18LL+CYn adran 196 (cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), yn is-adran (4) hepgorer y geiriau o “ac mae adran 20 yn darparu” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

19LL+CYn adran 204 (hawliadau meddiant), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)yn y testun Saesneg, yn lle “following sections” rhodder “following provisions”;

(b)hepgorer is-baragraff (i);

(c)yn is-baragraff (vi), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl chwe mis cyntaf”;

(d)yn is-baragraff (vii), yn lle “176, 177” rhodder “177, 177A”;

(e)yn is-baragraff (xii), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl 18 mis cyntaf”;

(f)yn is-baragraff (xiii), hepgorer “197,”;

(g)ar ôl is-baragraff (xiv) (ac o flaen y “neu” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—

(xv)Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol),.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

20LL+CYn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2, yng ngholofn dde y cofnod ar gyfer “hysbysiad adennill meddiant”, yn lle “adran 150” rhodder “adrannau 159, 161, 166, 171, 182, 188 a 192 (a gweler hefyd adran 150)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

21LL+CYn adran 256 (rheoliadau)—

(a)yn is-adran (2) yn lle “i ddeddfiad, ac eithrio darpariaeth yn y Ddeddf hon, a gwneud addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad heblaw am ddarpariaeth yn y Ddeddf hon” rhodder “, addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon)”;

(b)yn is-adran (4)—

(i)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)adran 121 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodol),

(db)adran 133 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol),;

(ii)ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(la)paragraff 13 o Atodlen 8A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),;

(c)ar ôl paragraff (m) (ac o flaen yr “ac” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—

(ma)paragraff 8 o Atodlen 9A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

(mb)paragraff 11 o Atodlen 9B (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

(mc)paragraff 11 o Atodlen 9C (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

22(1)Mae Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2)Yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn nhabl 4—

(a)yn y cofnod ar gyfer adrannau 122 i 128, yn y drydedd golofn (nodiadau)—

(i)yn lle “122(1)(a)” rhodder “122(1)(b)”, a

(ii)hepgorer y geiriau o “Nid yw adrannau 125(1)(b) a 126 wedi eu hymgorffori” hyd y diwedd;

(b)yn y cofnod ar gyfer adrannau 173 i 180—

(i)yn lle’r testun yn y golofn gyntaf (darpariaeth sylfaenol) rhodder “Adrannau 173 i 175 a 177 i 180, a Rhan 1 o Atodlen 9A”;

(ii)yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Os nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 174 i 177A nac Atodlen 9A yn gymwys; ond os yw’r contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 174A yn gymwys yn hytrach nag adran 174 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 175 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9 (hyd yn oed os yw adran 173 wedi ei hymgorffori).”

(3)Yn Rhan 3 (contractau safonol cyfnod penodol), yn nhabl 5—

(a)yn y cofnod ar gyfer adran 186, yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract o fewn Atodlen 9B. Os yw’r contract yn ymgorffori adran 186, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi.”;

(b)yn y cofnod ar gyfer adrannau 195 i 201—

(i)yn lle’r testun yn y golofn gyntaf (darpariaeth sylfaenol) rhodder “Adrannau 195, 195A a 196, a 198 i 201, a Rhan 1 o Atodlen 9A”;

(ii)yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu’r landlord; ond os oes gan y contract gymal terfynu’r landlord, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 195A yn gymwys yn lle adran 195 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 196 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9.”

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 6 para. 22 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

F123LL+C. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Atod 6 para 23 wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 9(a) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 15)

24LL+CYn Atodlen 4 (contractau safonol rhagarweiniol), ym mharagraff 3, yn is-baragraff (7) hepgorer y geiriau o “; mae’r pŵer o dan adran 256(2)” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

25(1)Mae Atodlen 7 (contractau safonol ymddygiad gwaharddedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2)Ym mharagraff 2, yn is-baragraff (8) yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl chwe mis cyntaf”.

(3)Ym mharagraff 4, yn is-baragraff (7) hepgorer y geiriau o “; mae’r pŵer o dan adran 256(2)” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

26(1)Mae Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 yn gymwys iddynt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2)Ym mharagraff 3, yn lle “Contract safonol sy’n ymwneud â llety â chymorth” rhodder “Contract safonol â chymorth”.

F2(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Yn y pennawd—

(a)hepgorer “, 186(2)”;

(b)yn lle “(HYSBYSIAD Y LANDLORD YN YSTOD CHWE MIS CYNTAF MEDDIANNAETH)” rhodder “(PRYD Y CANIATEIR RHOI HYSBYSIAD Y LANDLORD)”.

(5)Yn y geiriau rhagarweiniol, hepgorer “, 186”.

Diwygiadau Testunol

F2Atod 6 para 26(3) wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 9(b) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 15)

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 6 para. 26 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

27(1)Mae Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 o Ddeddf 2016 ddod i rym) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)Ar ôl paragraff 12 (darparu gwybodaeth) mewnosoder—

12A(1)Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai—

(a)paragraff 1 wedi ei hepgor, a

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—

Methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig

2Os—

(a)yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) (pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno), a

(b)yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),

ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.

(4)Ym mharagraff 23 (contractau safonol rhagarweiniol), yn is-baragraff (3), yn lle Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r” rhodder “Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriadau at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), ac

(c).

(5)Ar ôl paragraff 25 (landlord yn terfynu’r contract) mewnosoder—

25A(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”, a

(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”).

(6)Ar ôl paragraff 25A (a fewnosodir gan is-baragraff (5)) mewnosoder—

25B(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—

(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a

(b)nad yw o fewn Atodlen 9B.

(2)Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—

(a)y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu

(b)os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.

(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(5)At ddibenion is-baragraff (3)—

(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;

(ii)pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.

(6)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.

25CPan fo paragraff 25B yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel be bai—

(a)cyfeiriadau at adran 186 yn cynnwys cyfeiriad at baragraff 25B,

(b)cyfeiriadau at hysbysiad o dan adran 186(1) yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan baragraff 25B(2), ac

(c)cyfeiriadau at y sail yn adran 186(5) yn cynnwys cyfeiriad at y sail ym mharagraff 25B(6).

(7)Ar ôl paragraff 25C (a fewnosodir gan is-baragraff (6)), mewnosoder—

25D(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.

(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—

(i)yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a

(ii)is-adran (1A) wedi ei hepgor,

(b)yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(c)yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a

(d)Atodlen 9C wedi ei hepgor.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 6 para. 27 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019LL+C

28(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 6 (cymhwyso adrannau 2 i 5 o’r Ddeddf honno i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoli), hepgorer paragraff (b).

(3)Hepgorer adran 25 (tenantiaethau sicr).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 6 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)

I28Atod. 6 para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/904, ergl. 2