ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

24Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22)

1

Mae Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer—

a

adran 2 (ystyr cwblhau prentisiaeth Gymreig);

b

adrannau 7 i 12 (tystysgrifau a fframweithiau prentisiaethau);

c

adrannau 18 i 22 (fframweithiau prentisiaethau);

d

adrannau 28 i 36 (safonau a chytundebau prentisiaethau);

e

adrannau 38 a 39 (sectorau prentisiaethau a dehongli).

3

Yn adran 262 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (9), hepgorer “under Chapter 1 of Part 1 (other than an order under section 10) or”.