Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

1TrosolwgLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—

(a)yn rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ar y telerau a nodir yn Rhan 1, Pennod 1;

(b)yn creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo (Rhan 2, ac Atodlenni 1 a 2);

(c)yn rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a darpariaethau yn ymwneud â’r berthynas rhwng y ddau (Rhan 2, Pennod 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(d)yn rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru (Rhan 1, Pennod 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2A. 1 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(a)