Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

(a gyflwynir gan adran 57)

ATODLEN 3DARPARIAETHAU PELLACH YNGHYLCH GORCHMYNION SY’N YMWNEUD Â THIR COMIN

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Dyletswydd i ymgynghori â gwarchodwyr

1Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 57(2) o ran tir sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin y mae gwarchodwyr wedi eu penodi iddo o dan unrhyw Ddeddf leol, neu o dan unrhyw orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Seneddol, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r gwarchodwyr.

Y weithdrefn ynglŷn â gwneud gorchmynion sy’n gosod gwaharddiadau

2Cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 57(2), heblaw gorchymyn ei unig effaith yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi mewn 1 neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir wedi ei leoli ynddi hysbysiad—

(a)sy’n datgan effaith gyffredinol y gorchymyn,

(b)sy’n pennu lle yn yr ardal honno lle y gall unrhyw berson edrych ar gopi o’r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol yn ystod cyfnod o 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf, ac

(c)sy’n datgan y caiff unrhyw berson wrthwynebu gwneud y gorchymyn, o fewn y cyfnod hwnnw, drwy hysbysiad i’r awdurdod lleol.

3(1)Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi ohono i bob person sydd â hawl fel arglwydd y maenor neu fel arall i bridd y tir oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y personau sydd â hawl i bridd y tir yn niferus neu ei fod ar ôl ymholi’n ddiwyd yn methu eu canfod.

(2)Caniateir i hysbysiad o dan is-baragraff (1) gael ei gyflwyno i unrhyw berson drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig wedi ei gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diweddaraf y person.

4(1)Os bydd gwrthwynebiad i wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato wedi ei wneud yn y modd priodol i’r awdurdod lleol gan unrhyw beron sydd â hawl i bridd y tir cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, ac nad yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl wedyn, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â bwrw ymlaen i wneud y gorchymyn.

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, caiff yr awdurdod lleol, ar unrhyw adeg o fewn 1 flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, wneud gorchymyn yn nhelerau’r gorchymyn drafft.

(3)Ond os cafodd unrhyw wrthwynebiad i wneud y gorchymyn ei wneud yn y modd priodol o fewn y cyfnod hwnnw gan person a oedd heb hawl i bridd y tir, ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn, nid yw’r gorchymyn yn effeithiol hyd nes ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(4)Os bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo anfon copi at Weinidogion Cymru o bob gwrthwynebiad o’r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried pob gwrthwynebiad o’r fath ac (os ydynt yn gweld yn dda) ar ôl peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, gadarnhau neu wrthod cadarnhau’r gorchymyn ac, os byddant yn ei gadarnhau, cânt wneud hynny yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y maent yn credu eu bod yn ddymunol (os oes addasiadau o gwbl).

Hysbysu gorchmynion eraill i arglwyddi maenorau

5Os unig effaith gorchymyn o dan adran 57(2) yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol (fel nad yw paragraffau 2 i 4 yn gymwys o ran gwneud y gorchymyn) rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno unrhyw hysbysiadau, a chymryd unrhyw gamau eraill, y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol i roi gwybod i’r personau sydd â hawl i bridd y tir am effaith y gorchymyn.

Tir y Goron

6(1)Pan fwriedir gwneud gorchymyn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 2 o ran tir y mae buddiant ynddo gan y Goron neu Ddugaeth, a bod natur y buddiant yn golygu y byddai gan y person y mae’r buddiant yn perthyn iddo, heblaw am y paragraff hwn, hawl o dan baragraff 3 i gael copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)mae paragraff 3 yn effeithiol fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r copi gael ei gyflwyno yn hytrach i’r awdurdod priodol, a

(b)nid yw paragraff 4(1) yn gymwys o ran y gorchymyn ond rhaid i’r awdurdod lleol beidio â gwneud y gorchymyn hyd nes ac oni bai ei fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod priodol.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “buddiant gan y Goron neu Ddugaeth” yw buddiant sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron neu hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, neu sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth, neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “yr awdurdod priodol”—

(a)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystâd y Goron, yw Comisiynwyr Ystâd y Goron, ac, o ran unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron, yw’r adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw,

(b)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl Dugaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugaeth,

(c)o ran tir sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, yw unrhyw berson y mae Dug Cernyw, neu berchennog Dugaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi, a

(d)o ran tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(4)Os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa awdurdod yw’r awdurdod priodol o ran unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i’w gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.