xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynwyd gan adran 9(3))

ATODLEN 2CATEGORÏAU COFRESTRU

1Mae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.

TABL 1

CategoriDisgrifiad
Athro neu athrawes ysgolPerson sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolPerson sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran14(1)(a)(ii) ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.
Athro neu athrawes addysg bellachPerson sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellachPerson, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach, sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Newid categorïau gweithiwr cofrestredig

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

(3)Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a

(b)wedi ei gofrestru.

(4)Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

(b)yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.

(5)Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—

(a)meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

(b)cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

(c)cydymffurfio ag amod penodedig;

(d)arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.

Dehongli

3Yn yr Atodlen hon, ystyr “ysgol” yw—

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.