xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

25Ildio cymeradwyaethLL+C

(1)Caiff corff dyfarnu roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno i gymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a ddyfernir ganddo beidio â chael effaith (“hysbysiad ildio”).

(2)Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno i’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw i ben.

(3)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff dyfarnu (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.

(4)Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.

(5)Mae’r gymeradwyaeth yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.

(6)Wrth benderfynu a yw’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—

(a)yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw;

(b)dymuniad y corff y dylai’r gymeradwyaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 25 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

26Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion cydnabyddiaeth o ildio o dan adran 25.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn y gydnabyddiaeth o ildio sydd o fewn is-adran (3).

(3)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

(b)mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I4A. 26 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

27Tynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl gymeradwyaeth o dan y Rhan hon i ffurf ar gymhwyster os yw wedi ei fodloni—

(a)na chydymffurfiwyd ag amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo,

(b)bod y corff sy’n dyfarnu’r ffurf ar y cymhwyster wedi peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, neu

(c)yn achos cymeradwyaeth i ffurf ar gymhwyster a roddir o dan adran 18 neu 19, fod y cymhwyster o dan sylw wedi dod yn gymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig.

(2)Cyn tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff dyfarnu o dan sylw hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(3)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu’r gymeradwyaeth yn ôl, a

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cymeradwyaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am y penderfyniad, sy’n pennu’r dyddiad y bydd y gymeradwyaeth yn cael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(6)Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru, gyda chytundeb y corff dyfarnu o dan sylw, roi hysbysiad i’r corff sy’n amrywio’r dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i gael ei thynnu’n ôl.

(7)Pan roddir hysbysiad o dan is-adran (6), mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad tynnu’n ôl i gael ei drin, o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, fel y dyddiad tynnu’n ôl at ddibenion unrhyw hysbysiad pellach o dan yr is-adran honno.

(8)Wrth benderfynu ar ddyddiad at ddibenion yr adran hon, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I6A. 27 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

28Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion hysbysiad o dan adran 27(5).

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn yr hysbysiad sydd o fewn is-adran (3).

(3)Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(4)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn yr hysbysiad, a

(b)mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben, at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I8A. 28 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)