11Darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaethLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwrthod cais am gydnabyddiaeth a wneir o dan y Rhan hon, rhaid iddo roi datganiad i’r corff dyfarnu o dan sylw sy’n nodi ei resymau dros wrthod y cais.
(2)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaeth o dan y Rhan hon, gan gynnwys—
(a)cyfnod para’r gydnabyddiaeth;
(b)yr amodau y mae’r gydnabyddiaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt;
(c)ildio cydnabyddiaeth a thynnu cydnabyddiaeth yn ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 11 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)