xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth ar unrhyw adeg pan fo’r paragraff hwn yn berthnasol iddi.
(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded os yw pob un o’r personau y’i gwneir â hwy wedi eu heithrio rhag bod yn ddeiliaid contract gan adran 7(6) (unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed).
(3)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys i—
(a)tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi;
(b)meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 (p. 80);
(c)tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977 (p. 42);
(d)tenantiaeth ddiogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai, o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977;
(e)tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5);
(f)tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8);
(g)tenantiaeth hir (gweler paragraff 8);
(h)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety’r lluoedd arfog (gweler paragraff 9);
(i)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety mynediad uniongyrchol (gweler paragraff 10).
8(1)Ystyr “tenantiaeth hir” yw—
(a)tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),
(b)tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu
(c)tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno fel y mae’n cael effaith oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).
(2)Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.
(3)Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—
(a)a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,
(b)a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac
(c)a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.
(4)Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.
(5)Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—
(a)adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu
(b)paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.
9Llety’r lluoedd arfog yw llety a ddarperir i—
(a)aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi,
(b)aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi, neu
(c)sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog (o fewn ystyr adran 370 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52)),
at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi.
10(1)Llety mynediad uniongyrchol yw llety—
(a)a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,
(b)a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac
(c)na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.
(2)Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.