- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, Adran 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [F1y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [F2Senedd].
(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn [F3Aelod o’r Senedd],
(b)wedi bod yn [F3Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(c)yn aelod o staff y [F2Senedd],
(d)wedi bod yn aelod o staff y [F2Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(e)yn aelod o staff Llywodraeth F4... Cymru, neu
(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth F5... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [F2Senedd], neu
(b)cael ei ddiswyddo gan y [F2Senedd].
(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
(a)bod y [F2Senedd] yn penderfynu felly, a
(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
F6(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [F2Senedd] neu o staff Llywodraeth F7... Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 1(1) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), aau. 7, 42(2)
F2Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F4Gair yn a. 1(3)(e) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(a)
F5Gair yn a. 1(3)(f) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(a)
F6A. 1(8)(a) wedi ei hepgor (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Ddeddf ddiwygio) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(3)
F7Gair yn a. 1(8)(c) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys