Rhagymadrodd

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 a gafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Chwefror 2011 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 7 Ebrill 2011. Cawsant eu paratoi gan Ann Jones AC, yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Mesur, er mwyn iddynt fod o gymorth wrth ddeall y Mesur. Nid ydynt yn ffurfio rhan o’r Mesur ac ni chawsant eu hardystio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2.Mae angen darllen y Nodiadau ar y cyd â’r Mesur. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur. Gan hynny, os yw’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad neu unrhyw sylwadau ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.

ESBONIAD O’R ADRANNAU

Adran 1 – Dyletswydd i ddarparu systemau llethu tân awtomatig

3.O ran gwaith i godi adeilad i’w ddefnyddio’n breswylfa, gwaith i adeilad presennol neu ran ohono i’w drosi i greu un breswylfa neu fwy, neu waith i breswylfeydd presennol i’w his-rannu neu eu cyfuno, ceir dyletswydd i ddarparu ym mhob preswylfa system llethu tân awtomatig sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu rhagnodi mewn rheoliadau.

4.Ni fydd y ddyletswydd hon yn gymwys i waith adeiladu a wneir er mwyn cyflawni un o swyddogaethau Gweinidog y Goron, na phan fydd rheoliadau adeiladu yn gosod gofynion sy’n ymwneud â darparu systemau llethu tân, na phan fyddant yn gymwys felly ond am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf Adeiladu 1984 i hepgor y gofynion hynny.

Adran 2 – Gorfodi

5.Ac eithrio pan fydd gwaith adeiladu yn cael ei oruchwylio gan arolygydd cymeradwy, awdurdodau lleol sydd i orfodi’r Mesur hwn.

Adran 3 – Darparu gwybodaeth

6.Yn unol â’r rheoliadau adeiladu, pan fydd hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o’r bwriad i wneud gwaith adeiladu neu pan fydd cynlluniau llawn o waith o’r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol, rhaid i wybodaeth fynd gyda’r hysbysiad neu’r cynlluniau er mwyn dangos bod modd i’r gwaith fodloni’r gofynion a ragnodir yn y rheoliadau a wneir o dan adran 1. Rhaid darparu’r wybodaeth ar y fath ffurf a all fod wedi’i rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

7.Pan fydd awdurdod lleol o’r farn nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn gyflawn neu nad yw’n dangos yn ddigonol y bydd y gwaith, unwaith y bydd wedi’i orffen, yn gallu cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd yn adran 1(4), caiff roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farn honno i’r person a roddodd yr hysbysiad neu a adneuodd y cynlluniau, a rhaid rhoi’r cyfryw hysbysiad o fewn y “cyfnod perthnasol”, sef pum wythnos (neu hyd at ddau fis, os cytunwyd ar hynny) o ddyddiad cael yr wybodaeth. Caiff person sy’n cael ei hysbysu felly ddiwygio’r wybodaeth a roddwyd a chyflwyno’r wybodaeth wedi’i diwygio i’r awdurdod lleol, a bydd y cyfnod perthnasol yn dechrau adeg cael yr wybodaeth wedi’i diwygio. Caniateir cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cywirdeb y farn honno at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, a rhaid i’r cyfryw ffi ag a ragnodir mewn rheoliadau fynd gydag ef.

Adran 4 – Dilysu a chyflwyno dogfennau

8.Mae darpariaethau adran 93 (dilysu dogfennau), 94 (cyflwyno dogfennau), a 94A (cyflwyno dogfennau’n electronig) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu cyhoeddi neu eu cyflwyno o dan y Mesur.

Adran 5 – Erlyn am dramgwyddau

9.Dim ond awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru sy’n cael cychwyn achos llys o dan y Mesur.

Adran 6 – Dehongli

10.Mae adran 6 yn dehongli’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Mesur. Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff y diffiniad o “preswylfa” ei ddiwygio drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru os bydd diwygiad o’r fath yn ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl neu’n diwygio’r disgrifiad o ddosbarth presennol o fangreoedd preswyl.

Adran 7 – Darpariaethau trosiannol a chanlyniadol

11.Rhoddir y pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig, atodol ac unrhyw ddarpariaeth arall, gan gynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu neu addasu deddfiad fel arall, fel sy’n angenrheidiol neu’n briodol mewn cysylltiad â’r Mesur neu i roi llwyr effaith iddo.

Adran 8 – Rheoliadau a gorchmynion

12.Mae’r adran hon yn darparu bod yn rhaid gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur drwy offeryn statudol, ac mae’n darparu’r weithdrefn sydd i’w dilyn, gan gynnwys unrhyw ofyniad i ymgynghori, cyn gwneud rheoliadau.

Adran 9 – Teitl byr a chychwyn

13.Mae adran 9 yn nodi teitl byr y Mesur ynghyd â’r darpariaethau cychwyn.

Atodlen 1 – Gorfodi

14.Ac eithrio fel y darperir gan Atodlen 2, awdurdodau lleol sydd i orfodi’r Mesur hwn.

15.Bydd person sy’n gwneud gwaith adeiladu nad yw’n cydymffurfio â gofynion adran 1 yn euog o dramgwydd a all gael ei brofi’n ddiannod, a bydd yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

16.Heb ragfarn i’w hawl i gychwyn achos llys mewn perthynas â gwaith adeiladu tramgwyddus, caiff awdurdod lleol roi hysbysiad, i’w alw’n “hysbysiad paragraff 3”, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog gwblhau unrhyw addasiadau a ragnodir yn yr hysbysiad. Os na fydd yn cydymffurfio â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol wneud gwaith er mwyn sicrhau cydymffurfio â’r hysbysiad, a chaiff hawlio yn ôl y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny gan y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo. Rhaid i hysbysiad paragraff 3 nodi ar ba sail y caniateir apelio yn erbyn yr hysbysiad. Rhaid apelio drwy gŵyn i’r Llys Ynadon.

17.Pan fydd gwaith wedi’i wneud yn unol â’r wybodaeth a roddir i’r awdurdod lleol yn unol â darpariaethau adran 3, ni chaiff awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad paragraff 3 oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3 nad oedd yr wybodaeth, yn ei farn ef, yn dangos y byddai’r gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1.

18.Pan fydd hysbysiad paragraff 3 wedi’i roi i berson, caiff y person hwnnw hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn bwriadu cael adroddiad am y gwaith y mae’r hysbysiad paragraff 3 yn ymwneud ag ef gan rywun sydd wedi’i gymhwyso’n briodol, ac os bydd yr adroddiad yn arwain yr awdurdod lleol i dynnu’r hysbysiad paragraff 3 yn ôl, caiff yr awdurdod lleol dalu’r person a gafodd yr hysbysiad paragraff 3 y costau yr aed iddynt er mwyn cael yr adroddiad.

19.Mae gan swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol yr hawl i fynd i mewn i unrhyw fangre at ddibenion gorfodi darpariaethau’r Mesur.

20.Mae gan awdurdod lleol y pŵer i ymgymryd â gwaith profi ei hun, neu i’w gwneud yn ofynnol ymgymryd â’r fath waith, a hynny er mwyn canfod a yw gwaith adeiladu yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a geir yn y Mesur ai peidio.

Atodlen 2 - Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol

21.Bydd gan yr Atodlen hon effaith pan fydd hysbysiad cychwynnol o dan Ran 2 o Ddeddf Adeiladu 1984 mewn grym mewn perthynas â gwaith adeiladu y mae’r Mesur hwn yn gymwys iddo (pa un ai’r gwaith i gyd neu ran ohono yw’r gwaith adeiladu hwnnw). Tra bo’r hysbysiad mewn grym, ni fydd y swyddogaeth a roddir i awdurdod lleol i orfodi’r Mesur yn arferadwy mewn perthynas â’r gwaith adeiladu, a rhaid i arolygydd cymeradwy orfodi’r Mesur.

Cofnod Trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Mesur ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Cyflwyno’r Mesur arfaethedig8 Gorffennaf 2010
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol14 Gorffennaf 2010
23 & 30 Medi 2010
7, 14 & 21 Hydref 2010
Cyfnod 1 – Dadl yn y cyfarfod llawn ar yr egwyddorion cyffredinol24 Tachwedd 2010
Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau20 Ionawr 2011
Cyfnod 3 – Y cyfarfod llawn yn ystyried y gwelliannau16 Chwefror 2011
Cyfnod 4 – Pasio’r Mesur arfaethedig yn y cyfarfod llawn16 Chwefror 2011
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor7 Ebrill 2011