- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
17 Gorffennaf 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992(3) amnewidir am y ffigur “£14.50” yno y ffigur “£15.50”.
3. Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998(4) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £14.50 i £15.50 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S. 1992/1688). Diddymir Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/978) (a oedd yn darparu cynnydd cynharach yn y ffi) cyn belled â'u bod yn gymwys i Gymru.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn belled ag y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/1688; diwygiwyd rheoliad 3(1) gan O.S. 1998/978.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys