- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i gais am gymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad gael ei wneud ar y ffurf ac ar yr adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Rhaid i gais gynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad, neu ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond, beth bynnag fo'r achos, ni chaiff ei gymeradwyo oni bai ei fod wedi'i fodloni ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth Cymunedol yn unol â'r rhan berthnasol o'r CDGC a/neu'r DRS.
(4) Gall cymeradwyaeth gael ei roi o dan unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol armywio unrhyw gymeradwyaeth o'r fath drwy amrywio unrhyw amod y mae'n ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.
(6) Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (5), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwyr ei fod yn bwriadu gwneud hynny gyda datganiad o'i resymau;
(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
(7) Rhaid i gymeradwyaeth neu amrywiad o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys