- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad y plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;
ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yw—
yn achos plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano, yr awdurdod lleol hwnnw;
yn achos plentyn nad oes awdurdod lleol yn gofalu amdano—
os yw'n cael ei letya gan gorff gwirfoddol (1), y corff gwirfoddol hwnnw;
os yw'n cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod addysg lleol neu gan awdurdod lleol, yr awdurdod addysg lleol hwnnw neu'r awdurdod lleol hwnnw yn ôl fel y digwydd;
mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig, ac eithrio yn rheoliad 17(6) lle mae'n rhaid dehongli'r term yn unol â diben y ddarpariaeth y mae'n cael ei ddefnyddio ynddi;
ystyr “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 12;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref plant, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y cartref hwnnw(2);
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref plant, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y cartref hwnnw;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref plant, yw'r person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y cartref hwnnw;
dehonglir “rhiant maeth” (“foster parent”) yn unol ag adran 1(7) o'r Ddeddf;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â chartref plant—
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 42 ar gyfer yr ardal y mae'r cartref plant wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(4),
yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(5); neu
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, heblaw'n unol â'r Ddeddf honno;
ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr deintyddion sy'n cael ei chadw o dan Ddeddf Deintyddion 1984(6);
ystyr “ymchwiliad amddiffyn plant” (“child protection enquiry”) yw ymchwiliad a gynhelir gan awdurdod lleol wrth gyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan Ddeddf 1989 neu odani; ac
ystyr “ysgol gymwys” (“qualifying school”) yw ysgol sy'n gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o'r Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref plant yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref plant.
Adran 59 o Ddeddf 1989 sy'n llywodraethu darparu llety i blant gan gyrff gwirfoddol.
Gweler adran 121(6) i (8) i gael y ddarpariaeth ynghylch personau sy'n cael eu cymryd ymlaen i redeg a rheoli cartref cymunedol a ddarperir gan gorff gwirfoddol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys