- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Erthyglau 4, 5 ac 7
1. Rhaid i feddiannydd y safle wneud a chadw cofnod cyfoes o'r dofednod ar y safle sy'n dangos ar gyfer pob categori y nifer o ddofednod sydd wedi marw, y nifer sy'n amlygu arwyddion clinigol o glefyd a'r nifer o ddofednod nad ydynt yn amlygu unrhyw arwyddion. Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid dangos y cofnod i arolygydd milfeddygol.
2. Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau bod unrhyw ddofednod neu adar sy'n cael eu cadw mewn caethiwed ar y safle yn cael eu cadw yn y man lle maent yn byw neu mewn rhyw fan arall lle gellir eu hynysu. Rhaid ynysu colomennod yn eu colomendy nes bod y cyfyngiadau wedi'u dileu.
3. Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod i safle nac oddi arno.
4. Ni chaiff neb symud i'r safle nac oddi arno ac ni chaiff neb symud unrhyw anifail na cherbyd i'r safle nac oddi arno.
5. Ni chaiff neb waredu o'r safle na thaenu ar y safle unrhyw laesodr dofednod a ddefnyddiwyd neu faw dofednod neu unrhyw beth sy'n dueddol o drosglwyddo clefydau.
6. Ni chaiff neb symud unrhyw wyau oddi ar safle ac eithrio yn unol â darpariaethau erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC ac Atodiad I iddi neu ddarpariaethau erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC ac Atodiad I iddi yn ôl fel y digwydd.
7. Rhaid i feddiannydd y safle ddarparu a chynnal dull diheintio priodol ym mynedfeydd ac allanfeydd yr adeiladau sy'n lletya'r dofednod a mynedfeydd ac allanfeydd y safle.
8. Rhaid i feddiannydd y safle roi pob cymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol er mwyn sicrhau bod dofednod ac unrhyw adar arall a fynnir gan yr arolygydd milfeddygol ar y safle yn cael eu lladd yno yn ddi-oed a bod eu carcasau a'u hwyau yn cael eu dinistrio mewn modd sy'n cadw'r risg o ledaenu clefyd i'r lleiaf posibl, yn unol â chyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol.
9. Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau bod pob deunydd arall a all fod wedi'i halogi yn cael ei ddinistrio neu ei drin mewn modd sy'n dinistrio'r clefyd, yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol.
10. Rhaid i feddiannydd y safle roi pob cymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol er mwyn sicrhau bod —
(a)cig yr holl ddofednod a gafodd eu cigydda yn ystod y cyfnod deor tybiedig,
(b)wyau a ddodwyd yn ystod y cyfnod deor tybiedig,
(c)y cig a'r wyau sy'n debyg o gael eu halogi fel arall â firws y clefyd,
yn cael eu holrhain a'u dinistrio, ac eithrio nad oes angen dinistrio wyau bwrdd os ydynt wedi'u diheintio o'r blaen.
11. Rhaid i'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio i letya dofednod, y mannau o'u cwmpas, y cerbydau sy'n cael eu defnyddio i'w cludo a phob offer sy'n debygol o gael eu halogi, fod yn destun gwaith glanhau a diheintio rhagarweiniol a therfynol, o dan oruchwyliaeth arolygydd, yn unol ag Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC neu Atodiad II y Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC yn ôl fel y digwydd ac er boddhad arolygydd milfeddygol. Rhaid i feddiannydd y safle beidio ag ailstocio'r safle tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl cwblhau'r glanhau a'r diheintio.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys