- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4. Dyma'r dosbarthiadau o bobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(3) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd fel rhai cymwys i ddyraniad o lety tai gan awdurdod tai lleol)—
(a)Dosbarth A-person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad erthygl 1 o'r Confensiwn sy'n ymwneud â statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yng Ngenefa 28 Gorffennaf 1951(1) fel yr estynnwyd gan Erthygl 1(2) o'r Protocol sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yn Efrog Newydd 31 Ionawr 1967(2));
(b)Dosbarth B-person—
(i)a gafodd ganiatâd arbennig gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i ddarpariaethau'r rheolau mewnfudo; a
(ii)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei wneud yn ofynnol iddo ei gynnal a'i letya ei hun, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arno, heb fynd ar ofyn cronfeydd cyhoeddus;
(c)Dosbarth C-person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw person—
(i)a gafodd ganiatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar sail ymgymeriad ysgrifenedig a roddwyd gan berson arall (“noddwr” y person hwnnw) yn unol â'r rheolau mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety'r person hwnnw;
(ii)a fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan ddaeth i mewn i'r wlad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad a grybwyllir uchod mewn perthynas â'r person hwnnw, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a
(iii)y mae ei noddwr neu, os bydd rhagor nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn fyw o hyd;
(d)Dosbarth Ch-person sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac sy'n—
(i)wladolyn gwladwriaeth a gadarnhaodd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953(3) neu wladwriaeth a gadarnhaodd Siarter Gymdeithasol Ewrop a wnaethpwyd yn Nhorino (Turin) ar 18 Hydref 1961(4) ac sy'n gyfreithiol bresennol yn y Deyrnas Unedig; neu
(ii)cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985(5) (cartrefu'r digartref) neu Ran VII o'r Ddeddf (digartrefedd) sy'n bodoli, ac sy'n wladolyn gwladwriaeth a lofnododd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a lofnododd Siarter Gymdeithasol Ewrop ar 18 Hydref 1961.
Gorch.9171.
Gorch.3906.
Gorch.9512.
Gorch.2643.
1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Orchymyn Deddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (O.S. 1996/2959 (C.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i ymgeiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno ac a wnaeth geisiadau cyn 20 Ionawr 1997.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys