xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003(3).
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(4));
ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl y caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant dalu grant mewn perthynas â'i addysg i'r awdurdod addysg lleol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(5);
ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;
mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(6);
ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “wedi'i wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;ac
mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996(7).
3. O fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais yn ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani.
4.—(1) At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhagnodi'r personau canlynol fel personau y caiff ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt—
(a)unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a
(b)unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.
(2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw —
(a)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;
(b)Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(c)Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac
(ch)y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(8).
(3) Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
Rheoliad 3
1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl —
(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y Rhif blaenorol;
(b)cyfenw;
(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d)rhyw;
(dd)dyddiad geni;
(e)grŵp ethnig;
(f)hunaniaeth genedlaethol;
(ff)dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; a
(g)grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yr addysgir y disgybl ynddo.
2. Cod post y cartref lle mae'r disgybl fel arfer yn preswylio.
3. A yw'r wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl a ddarparwyd yn rhinwedd yr Atodlen hon yn cael ei darparu gan —
(a)y disgybl;
(b)rhiant;
(c)yr ysgol;
(ch)cyn ysgol; neu
(d)unrhyw ffynhonnell arall.
4. Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
5. A yw'r disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref ac, os felly, gyda phwy.
6. A yw'r disgybl yn astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
7. A gafodd yr wybodaeth am lefel rhugledd y disgybl yn y Gymraeg a faint o Gymraeg y mae'r disgybl yn ei siarad gartref a ddarparwyd yn rhinwedd y Rhan hon ei darparu gan —
(a)y disgybl;
(b)rhiant;
(c)yr ysgol;
(ch)cyn ysgol; neu
(d)unrhyw ffynhonnell arall.
8. A yw'r disgybl yn astudio unrhyw bwnc, heblaw'r Gymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith, drwy gyfrwng y Gymraeg.
9. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996(10), wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.
10. A yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(1) a 512ZB o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais ac wedi'i gael yn gymwys am laeth am ddim yn yr ysgol.
11. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarhnad o —
(a)brif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a
(b)y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”(11), a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei wneud i'r disgybl hwnnw.
12. Lle mae'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.
13. A yw'r disgybl, hyd eithaf gwybodaeth y corff llywodraethu, wedi bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yr awdurdod lleol tra bu ar Gofrestr yr ysgol, ac, os felly, enw'r awdurdod lleol yr oedd y disgybl yn derbyn gofal ganddo yn fwyaf diweddar.
14. Yn achos ysgol arbennig nad yw'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty a yw'r disgybl yn byrddio yn yr ysgol ac os felly, a yw'r disgybl yn byrddio am saith noson yr wythnos neu am lai na saith noson yr wythnos.
15. A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol neu fwy nag un ysgol, a lle mae'r disgybl wedi'i gofrestru fel disgybl mewn mwy nag un ysgol, a yw'r wybodaeth yn cael ei llunio gan yr ysgol y mae'r disgybl yn mynd iddi am y rhan fwyaf o'i amser.
16. A yw'r disgybl yn ddisgybl rhan-amser, ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhan-amser” yw bod y disgybl yn mynychu llai na deg sesiwn ysgol mewn unrhyw wythnos pan fydd yr ysgol yn cyfarfod.
17. Yn achos ysgol nad yw'n ysgol arbennig, a yw'r disgybl yn cael addysg —
(a)mewn dosbarth meithrin;
(b)mewn dosbarth arbennig a ddynodwyd felly gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd felly gan yr ysgol; neu
(c)mewn dosbarth prif ffrwd nad yw wedi'i ddynodi yn ddosbarth arbennig gan yr awdurdod addysg lleol neu a drefnwyd fel dosbarth arbennig gan yr ysgol.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol —
(a)a yw'r disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru; a
(b)teitl pob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disgybl yn ei astudio.
2. Mewn perthynas â phob cwrs neu weithgaredd dysgu arall y mae'r disbygl yn ei astudio —
(a)cyfeirnod y gweithgaredd dysgu;
(b)y dyddiad y ddechreuodd y disgybl y gweithgaredd dysgu;
(c)y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben;
(ch)enw darparwr y gweithgaredd dysgu;
(d)a ddarperir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; ac
(dd)a oes gan y disgybl anhawster dysgu neu anabledd, neu'r ddau, ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd.
1. Yr wybodaeth ganlynol am bob disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol ac yr oedd ei ddyddiad gwahardd parhaol yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst cyn y dyddiad y gwneir y cais am wybodaeth arno —
(a)Rhif unigryw disgybl cyfredol;
(b)cyfenw;
(c)enw cyntaf y disgybl, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch)enw canol y disgybl, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d)rhyw;
(dd)dyddiad geni; ac
(e)y dyddiad y dechreuodd y gwaharddiad parhaol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Os bydd awdurdod addysg lleol yn anfon cais ysgrifenedig at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, mae'r Rheoliadu hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu roi gwybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen mewn perthynas â disgyblion yn yr ysgol i'r awdurdod. Rhaid i'r corff lywodraethu roi'r gwybodaeth i'r awdurdod o fewn pedwar diwrnod ar ddeg.
Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi yn ogystal i ba bersonau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Amnewidiwyd adran 337 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 80.
1973 p.50. Amnewidiwyd Adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 ac amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).
Amnewidiwyd adrannau 512 a 512ZB, ynghyd ag adran 512ZA, gan adran 512 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 201(1).
ISBN 0 7504 27574.