- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person —
(a)yn unigolyn sy'n rhedeg asiantaeth —
(i)mewn dull nad yw mewn partneriaeth gydag eraill a'i fod yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(ii)mewn partneriaeth gydag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff ac —
(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr “unigolyn cyfrifol”) sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac sy'n gyfrifol am reoli'r asiantaeth; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion —
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth yr asiantaeth; ac
(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.
(4) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth—
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hwy.
9.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth—
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r asiantaeth; a
(b)os yw'r darparydd cofrestredig —
(i)yn gorff;
(ii)yn rhedeg asiantaeth mewn partneriaeth;
(iii)heb fod yn berson ffit i reoli asiantaeth; neu
(iv)heb fod â gofal llawnamser dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod â gofal drosti.
(2) Pan fydd —
(a)y darparydd cofrestredig, neu
(b)os oes penodiad wedi'i wneud o dan baragraff (1), y rheolwr cofrestredig,
yn cynnig bod, neu'n debyg o fod, neu wedi bod, yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth tra bydd y darparydd neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn absennol.
(3) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —
(a)o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)yn amodol ar gofrestru'r person, o'r dyddiad y mae effaith y penodiad i fod i ddod i rym.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod â gofal dros yr asiantaeth ar bob adeg y mae'r asiantaeth ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.
(5) Ni cheir enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas ag ef ac wedi ei hysbysu i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio bod rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 3 fod ar gael yn lle'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraff 8 o Atodlen 2.
10.—(1) Ni chaiff person reoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai —
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;
(b)o roi sylw i natur yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth —
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac
(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.
11.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i natur a maint yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) ei rheoli â gofal, cymhwysedd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig —
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan yr unigolyn yr arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am redeg yr asiantaeth.
(3) Os yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un o'u plith yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(4) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.
12. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith —
(a)o ddyddiad a man y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys