- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
33.—(1) Os gall person perthnasol ddangos, fel bod yr ymgymerwr wedi'i fodloni yn rhesymol, ei fod wedi gweld colled, neu y bydd yn gweld colled, o ganlyniad i fethu â physgota o fewn yr ardal berthnasol ar ôl cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1 oherwydd arfer pwerau'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal rhesymol i'r person perthnasol i'w ddigolledu am y golled honno.
(2) Rhaid gwneud unrhyw gais felly ar ôl i'r gwaith adeiladu ar Waith Rhif 1 ddechrau ond heb fod yn hwyrach na 2 flynedd ar ôl ei gwblhau; a dylid cyfeirio unrhyw anghydfod o ran atebolrwydd am dalu iawndal, neu gyfanswm yr iawndal, i'w gymrodeddu yn unol ag erthygl 39 o'r Gorchymyn hwn.
(3) Nid oes gan neb yr hawl i gael iawndal o dan y ddarpariaeth hon os collfarnir hwy yn euog o dramgwydd o dan erthygl 28(1) oherwydd treillio yn yr ardal berthnasol; ac, os caiff unrhyw berson ei gollfarnu o dramgwydd felly ar ôl i iawndal gael ei dalu iddo yn unol â'r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr adennill yr iawndal oddi wrth y person hwnnw.
(4) At ddibenion penderfynu pa un a yw person yn berson perthnasol ai peidio, a hyd a lled colled unrhyw berson at ddibenion paragraff (1), ni ddylid cyfrif unrhyw weithgaredd oni bai iddo gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy'n gymwys; ac, yn benodol, ni ddylid cyfrif unrhyw bysgodyn a ddaliwyd oni bai iddo gael ei gynnwys yn y derbyniadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru o dan is-ddeddfau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(1) a, pan fo'n berthnasol, mewn datganiadau a gyflwynwyd o dan erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93(2).
(5) Yn yr erthygl hon—
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw perchennog cwch sydd wedi bod yn pysgota o fewn yr ardal berthnasol yn y cwch hwnnw yn rheolaidd wrth gyflawni ei fusnes ym mhob un o'r pum mlynedd yn union cyn cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1; ac
ystyr “yr ardal berthnasol” (“the relevant area”) yw safle'r fferm wynt a'r ardal ychwanegol y cyfeirir ati yn erthygl 28(1)(b).
O.J. Rhif L261, 20.10.93 t.l.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: