- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Chwefror 2004
Yn dod i rym
17 Chwefror 2004
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 17 Chwefror 2004.
2.—(1) Caiff Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(3) eu newid yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —
(a)yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) rhodder y diffiniad canlynol —
“ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis;”; a
(b)yn lle'r diffiniad o “tsilis poeth a chynnyrtsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”) rhodder y diffiniad canlynol —
“ystyr “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth”(“hot chilli and hot chilli products”) yw —
ffrwythau'r genws Capsicum, sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu wedi'u malu ac sy'n dod o dan God CN 09042090; a
powdwr cyrri sy'n dod o dan God CN 091050;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Chwefror 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 21 Ionawr 2004 ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis a chynhyrchion tsilis (“y Penderfyniad newydd”). Diddymwyd Penderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC ar fesurau brys mewn cysylltiad â tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114) gan y Penderfyniad newydd.
Dyma'r gwahaniaethau rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC —
(a)mewn perthynas â phowdwr cyrri, mae'r Penderfyniad newydd yn ymestyn y mesurau brys a nodwyd eisoes ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/460/EC mewn cysylltiad â tsilis sydd wedi'u sychu a'u gwasgu neu eu malu. Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy.238) (rheoliad 2(2)(b)) ddiffiniad diwygiedig o “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”); a
(b)mae'r Penderfyniad newydd yn diwygio'r amodau ar gyfer mewnforio tsilis a chynhyrchion tsilis drwy ddarparu y gwaherddir mewnforio onid yw'r adroddiad dadansoddiadol sy'n dod gyda'r llwyth yn dangos nid yn unig bod y cynnyrch ddim yn cynnwys Swdan I (Rhif CAS 842-07-9) ond, at hynny, nad yw'n cynnwys Swdan II (Rhif CAS 3118-97-6), Swdan III (Rhif CAS 85-86-9) neu Scarlet Red neu Swdan IV (Rhif CAS 85-83-6). Caiff y newid hwn ei weithredu trwy fewnosod yn O.S. 2003/2455 (Cy. 238) (rheoliad)2(2)(a)) ddiffiniad diwygiedig o “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”).
Rhif au cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth” (“hot chilli and hot chilli products”).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys