- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Bydd modd cwestiynu refferendwm dan y Rheoliadau hyn trwy ddeiseb (“deiseb refferendwm”) —
(a)ar y sail nad oedd canlyniad y refferendwm yn unol â'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw;
(b)ar y sail y di-rymwyd y refferendwm gan arferion llwgr neu anghyfreithlon, yn unol ag ystyr Deddf 1983, fel y byddant yn berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8) isod;
(c)ar y sail a ddarperir gan adran 164 (dirymu etholiad oherwydd llygredigaeth gyffredinol etc.) o Ddeddf 1983, fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (8) isod, neu
(d)yn amodol ar baragraff (3), ar y sail bod taliad ariannol neu wobr arall wedi ei gwneud neu'i haddo ers y refferendwm yn unol â rhyw arfer llwgr neu anghyfreithlon sy'n berthnasol i refferenda yn rhinwedd rheoliad 8 neu baragraff (8) isod.
(2) Caiff deiseb refferendwm ar unrhyw un o'r seiliau a nodir ym mharagraff (1)(a) hyd (c) ei chyflwyno cyn pen 21 o ddiwrnodau wedi'r dyddiad y cynhaliwyd y refferendwm.
(3) Ni ellir cyflwyno deiseb refferendwm ar y sail a nodir ym mharagraff (1)(d) ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.
(4) Gwneir cais am ganiatâd, nid hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad neu'r addewid honedig, drwy roi rhybudd o gais i'r llys ar adeg ac mewn lle a bennir gan y llys.
(5) Nid llai na saith niwrnod cyn y dyddiad a bennir yn y modd hwnnw bydd yr ymgeisydd —
(a)yn cyflwyno'r rhybudd o gais i'r ymatebydd a'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ac yn rhoi copi yn y swyddfa deisebau etholiadau; a
(b)yn cyhoeddi rhybudd o'r cais arfaethedig yn o leiaf un o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal bleidleisio ar gyfer y refferendwm y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(6) Bydd y rhybudd o gais yn datgan y sail dros wneud y cais.
(7) Caiff deiseb refferendwm ei phrofi gan lys etholiad, hynny yw, llys a gyfansoddwyd dan adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man profi) o Ddeddf 1983 ar gyfer profi deiseb etholiad, fel y'i cymhwysir gan baragraff (8) isod.
(8) Bydd y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 5 yn effeithiol o ran cwestiynu refferendwm fel y maent yn effeithiol o ran cwestiynu etholiad dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) yn amodol ar —
(a)y newidiadau a nodir yn is-baragraffau (a) hyd (p) o baragraff (1) o reoliad 8;
(b)rhoi yn lle , ar gyfer “an election petition”, lle bynnag yr ymddengys y term hwnnw, “a referendum petition under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2004”; a
(c)y newidiadau pellach a nodir yng ngholofn (2) o Atodlen 5.
(9) Bydd Rheolau Deisebau Etholiadau 1960(2) yn effeithiol o ran deiseb refferendwm fel y maent yn effeithiol o ran deiseb etholiad lleol yn unol ag ystyr y Rheolau hynny'n amodol ar y newidiadau a nodir yn Atodlen 6.
Diwygiwyd O.S. 1960/543, gan O.S. 1985/1278 a 1999/1352.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys