Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 69 (Cy.7)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

18 Ionawr 2005

Yn dod i rym

21 Ionawr 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000

2.  Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3) fel a ganlyn.

3.  Yn Atodlen 1—

(a)yn lle paragraff 13 rhodder y canlynol —

13.  Os yw'n hysbys,

(a)y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;

(b)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(4); a

(c)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)(5) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.; a

(b)hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen.

4.  Yn Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 5 rhodder y canlynol —

5.  Os yw'n hysbys,

(a)y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;

(b)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a

(c)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.; a

(b)hepgorer paragraff 6(d) ar “a” o'i flaen.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau )

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (“Rheoliadau 2000”) mewn perthynas â materion penodol sydd i'w cofnodi ar y gofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r gofrestr i ddangos y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Ymsefydlu”). Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau Ymsefydlu. Mae'r Rheoliadau Ymsefydlu yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlenni 1 a 2 i Reoliadau 2000 fel nad oes angen mwyach i'r Cyngor gofnodi ar y gofrestr y dyddiad pryd y dechreuodd cwrs hyfforddi cychwynnol athrawon ar gyfer athro neu athrawes a phryd y cwblhawyd y cwrs.

(1)

1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir adran 4 yn rhagolygol gan baragraff 4(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a diwygiwyd hi gan baragraff 77 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(4)

O.S. 2003/543 (Cy. 77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).

(5)

Mewnosodwyd Rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy. 87).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill